amdonom ni | blog Clare | blog Carl | galw-i-mewn | fforwm | MHFA | prosiectau | pwnc y mis | diwylliant | cyfeillion mind | dolenni | am Mind | English

Triniaethau Siarad

Triniaethau Siarad

Mae triniaethau siarad yn eich helpu i ddod dros anawsterau emosiynol ac ymryddhau o deimladau, meddyliau ac ymddygiad hunanddinistriol. Maent yn gweithio trwy roi cyfle ichi siarad mewn ffordd sy’n eich cynorthwyo i’ch deall eich hun yn well. Ar ôl ichi ennill y ddealltwriaeth yma gallwch drefnu byw eich bywyd mewn ffordd fwy positif ac adeiladol.

 

Beth yw’r gwahanol driniaethau siarad?

Ceir amrywiaeth fawr; mae rhai’n para am flynyddoedd ac eraill am ychydig sesiynau’n unig.

 



Cliciwch yma am erthygl ar warth
gan Graham
Thornicroft

Cwnsela Unigol.

Dyma gyfle ichi sôn am yr hyn sy’n eich poeni chi , ac i gael gwrandawiad. Mae’n digwydd wyneb yn wyneb fel arfer.  Yn gyffredinol mae ar gael trwy eich meddyg teulu neu drwy wahanol sefydliadau ac mae’n arbennig o werthfawr mewn argyfwng neilltuol. Os ydych chi’n penderfynu gweld cwnsler gallai fod am un sesiwn neu gallwch drefnu apwyntiadau rheolaidd am awr yr wythnos dros gyfnod penodol.

 

Mae cwnsela’n tueddu i ffocysu ar eich problemau cyfredol, ac mae’r cwnsler yn eich helpu i ganfod y ffordd orau o’u datrys. Medr pwysicaf y cwnsler yw’r gallu i wrando. Nid yw’n nod ganddo neu ganddi ddweud wrthych chi beth i’w wneud, na chynnig barn bersonol, ond eich helpu i ddatrys eich problemau eich hun.

 

Seicotherapi Unigol.

Nod cyffredinol seicotherapi yw eich helpu i ddeall pam rydych chi’n teimlo fel rydych chi, ac am yr hyn sydd y tu ôl i'ch ymateb i bobl eraill ac i bethau sy’n digwydd ichi. Gall sôn am eich problemau eich helpu i ryddhau teimladau poenus a chanfod dulliau gwell o reoli sefyllfaoedd anodd. Dylai hyn eich galluogi i ddeall y digwyddiadau sy wedi pennu cwrs eich bywyd yn well a phatrymau ymddygiad hunanddinistriol.

 

Gall, felly, eich galluogi i oresgyn problemau penodol megis bwyta afreolus a diffyg hyder, neu ganiatáu ichi ddod yn hapusach.


Gall sesiynau amrywio o ran hyd ac ystod amser. Nid yw’n anghyffredin cael sesiynau sy’n benagored neu sy’n digwydd o fewn cyfnod gosodedig o tua chwe wythnos, gyda’r opsiwn o gael rhagor os bydd angen.

 

Cwnsela perthnasoedd a therapi teuluol

Mae cwnsela perthnasoedd yn bod ar gyfer parau sydd am ddatrys problemau yn eu perthynas. Maent yn mynychu sesiynau gyda’i gilydd ac mae’r cwnsler yn eu helpu i fynegi eu hanawsterau a chanfod ffyrdd o wneud i’w perthynas weithio’n well. Mae therapi teuluol yn gweithio yn yr un modd, ond bod y teulu cyfan yn mynychu.

 

Therapi Grŵp
Yn galluogi pobl i ddelio â phroblemau rhyngbersonol ac i ddatblygu hunanymwybyddiaeth. Fel arfer mae 8-12 o bobl yn cwrdd yn rheolaidd â therapydd i sôn am eu pryderon.


Mae’n gysur cael bod gyda phobl eraill sydd mewn sefyllfaoedd tebyg i chi a gall cyfleoedd godi i ymddwyn yn wahanol, i fod yn fwy penderfynol er enghraifft.

 

Therapi Ymddygiad Gwybyddol (CBT)

Defnyddir CBT yn aml gan seicolegwyr. Fe’i defnyddir i helpu rhai pobl i ddod dros ofnau a ffobiâu, megis bod yn rhy ofnus i fynd i siop, neu ymddygiad obsesiynol, megis ymolchi lawer gwaith mewn diwrnod.

 

Mae CBT yn helpu i nodi cysylltiadau rhwng eich meddyliau, eich teimladau a’ch ymddygiad. Triniaeth ymarferol yw hi sy’n ffocysu ar dechnegau penodol o ddatrys problemau ac sy’n eich galluogi i ddatblygu technegau newydd i ddygymod.Cynigir CBT gan seicolegwyr, arbenigwyr nyrsio iechyd meddwl neu seiciatryddion.

 

Sut mae cychwyn?
Gall triniaethau siarad fod ar gael am ddim trwy’r GIG, gwasanaethau Cymdeithasol, meddygon teulu, timau iechyd meddwl cymunedol a gwahanol sefydliadau. Mae’r hyn sydd ar gael yn amrywio o le i le ac yn anffodus nid oes rhywbeth addas ar gael bob amser.


Y lle gorau i gychwyn yw trwy holi eich meddyg teulu a ddylai allu cynnig rhagor o wybodaeth ichi neu eich cyfeirio at y sefydliadau neu’r corff perthnasol a all ateb eich anghenion.