amdonom ni | blog Clare | blog Carl | fforwm | MHFA | prosiectau | pwnc y mis | diwylliant | dolenni | am Mind | English


Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl


Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl yw’r help a roddir ar unwaith i rywun sy’n profi  gofid meddwl. Mae Mind Ynys Môn & Gwynedd am gynyddu nifer y rhai sy’n darparu Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl yn y gymuned gyda’r nodau a ganlyn:

 

Pam Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl?

Mae problemau Iechyd Meddwl yn gyffredin iawn.  Bydd un ymhob pedwar o bobl yn cael problem gyda iechyd meddwl yng nghwrs blwyddyn. Er bod  problemau Iechyd Meddwl mor gyffredin mae pobl yn parhau i’w camddeall ac nid ydynt yn cael eu trafod yn gyhoeddus yn aml. Pan fydd hyn yn digwydd, ac yn aml iawn yn y Cyfryngau, fe’u trafodir yn anghywir, sy’n arwain ar ofn, gwarth a chamwahaniaethu. Mae hyn yn ei dro’n cadw unigolion rhag ceisio help. Mae llawer o bobl yn anwybodus ac yn aml nid ydynt yn gwybod sut i ymateb.

Gall meddygon teulu, cwnselwyr ac aelodau o Dimau Iechyd Meddwl helpu pobl sydd â phroblemau Iechyd Meddwl. Fodd bynnag, megis yn achos damweiniau ac achosion meddygol brys, nid yw cymorth o’r fath bob amser ar gael pan fydd problem yn odi am y tro cyntaf. Dyma pryd y gall aelodau’r cyhoedd gynnig help ar unwaith a chynorthwyo rhywun i gael help priodol.

Mae Mind Ynys Môn & Gwynedd am ddysgu sgiliau i gynifer o bobl â phosibl er mwyn creu cymuned lle mae’n dderbyniol i unigolion sôn yn agored am eu gofid meddwl heb ofni gwrthodiad neu gamwahaniaethu, gan hybu Iechyd Meddwl, lle ac adferiad da.

Cysylltwch â Mind Ynys Môn & Gwynedd
Ffôn:  01407 761611
Ebost:ynysmonandgwyneddmind@yahoo.co.uk