amdonom ni | blog Clare | blog Carl | fforwm | MHFA | prosiectau | pwnc y mis | diwylliant | dolenni | am Mind | English


Prosiectau Eraill


Celf mewn Iechyd a Lles: Gweithdai Celf Am Ddim

Arddangosfa Celf mewn Iechyd a Lles Ynys Môn
Mind yw’r brif elusen iechyd meddwl yng Nghymru a Lloegr fel ei gilydd. Gweithiwn er mwyn creu bywyd gwell i bawb sydd â phrofiad o ofid meddwl. Bydd un o bob pedwar o bobl yn profi problem iechyd meddwl rywbryd yn ystod eu bywyd, ac os edrychwch o’ch cwmpas yn eich swyddfa, eich ysgol neu wrth aros am y bws, fe welwch mai dyna lawer iawn o bobl gyffredin.
Un o amcanion Mind Ynys Môn & Gwynedd yw creu cymunedau iach a hybu lles i bawb. Mae dysgu sut i feithrin iechyd meddwl da’n datblygu ein gallu i wrthsefyll pwysau bywyd o ddydd i ddydd. Un cyfrwng i wneud hynny yw celfyddyd.
Mae'n gydnabyddedig ers amser bod y celfyddydau’n strategaeth hollbwysig o ran trin iechyd a lles mewn ffordd gyfannol, ac i lawer o bobl, mae'n atodiad therapiwtig neu amgen i ymyriadau cyffredin.

Celf mewn Iechyd a Lles JPG


Mae ein gweithdai’n agored i bawb er mwyn darparu integreiddio ystyrlon, ac fe’u rhedir mewn canolfannau celfyddydau yn y gymuned (megis Canolfan Ucheldre) ar wahân i adeiladau a safleoedd a gysylltir â gwarth iechyd meddwl.
Eu ffocws yw galluogi pawb sy’n cymryd rhan ynddynt, rhoi llais iddynt a gwella eu hiechyd meddyliol, emosiynol ac ysbrydol. Byddwn hefyd yn defnyddio’r celfyddydau fel cyfrwng i fynd i’r afael â gwarth, sef yr hyn sy’n ategu ein holl weithgarwch.
Mae Mind Ynys Môn & Gwynedd wedi rhedeg dosbarthiadau gyda’r arlunydd Jacquie Myrtle a Chanolfan Ucheldre er 2008.  Yn fwy diweddar, mae wedi cyfres o weithdai hefyd mewn partneriaeth â’r Gyngor Gwynedd, Oriel ac Amgueddfa Bangor a nifer o artistiaid sy’n cynnig amrediad o sgiliau arbenigol.


Current Art classes are:  The Ucheldre Arts Centre, Holyhead, and Tuesdays from October 12th 2010 @ 10-12pm with artist Jaqui Myrtle, £1.00
Bangor, Oriel Museum and Gallery from Oct 14th 2010 Thursdays @ 10-12pm please see booking form for details and to reserve a place. With Manuela Niemetscheck and Mari Elain. Creative Writing- The Ucheldre Arts Centre, Holyhead, Mondays from October 11th 2010 @ 1.30pm-4pm with Simon Holloway, £2.00

Am ragor o wybodaeth ac i archebu lle:
Ebost: ynysmonandgwyneddmind@yahoo.co.uk
Ffôn: Clare Bailey on (01407) 761611