amdonom ni | blog Clare | blog Carl | fforwm | MHFA | prosiectau | pwnc y mis | diwylliant | dolenni | am Mind | English

 

ARCHWAETH A FFITRWYDD MIND


YMGYRCH COLLI PWYSAU

Trwy golli pwysau gyda’ch ffrindiau yn Mind Ynys Môn & Gwynedd gobeithiwn y byddwch chi'n gallu newid eich diet i golli pwysau unwaith ac am byth.

Ein nod yw eich helpu i greu prydau bwyd boddhaol.

Eich helpu i golli pwysau heb deimlo eisiau bwyd byth.

Eich helpu i deimlo’n braf amdanoch chi’ch hun ac â rheolaeth dros eich bywyd.

Eich dysgu i osgoi salwch.

Eich helpu i golli pwysau fel y gallwch wisgo beth bynnag sydd eisiau arnoch chi o unrhyw siop ddillad.

Eich helpu i hoffi eich golwg

Eich helpu i ennill hunanhyder.

Ni fyddwn byth yn datgelu eich pwysau: dim ond y newid yn eich pwysau.

YMGYRCH FFITRWYDD

Nod Mind Ynys Môn & Gwynedd yw eich helpu i ddod yn fwy heini a’ch annog i godi eich lefel ffitrwydd o wythnos i wythnos.  Byddwn yn eich annog i gerdded mwy ac i gael hwyl ar rai i’n gweithgareddau gwahanol yn y Rhaglen Ffitrwydd Wii.

Ein nod yw eich annog i wneud ychydig mwy o ymarfer corff gan gychwyn gyda 5 - 10 munud y dydd.

Cynyddu lefel eich ymarfer corff o gam i gam.

Cynnwys ymarfer corff yn eich bywyd beunyddiol.

Mae ychydig bach o ymarfer corff bob dydd yn well na gwneud popeth mewn un diwrnod.

Pan fyddwch yn fodlon ar yn dygymod â’ch ymarfer corff dylech geisio gwneud mwy (hanner awr y dydd).

Rydym yn gobeithio eich annog i wneud hanner awr o ymarfer corff y dydd am 5 diwrnod yr wythnos am weddill eich bywyd.