amdonom ni | blog Clare | blog Carl | galw-i-mewn | fforwm | MHFA | prosiectau | pwnc y mis | diwylliant | cyfeillion mind | dolenni | am Mind | English


Am MIND cenedlaethol


Mind yw’r brif elusen iechyd meddwl yng Nghymru a Lloegr. Rydym yn ceisio creu bywyd gwell i bawb sydd â phrofiad o ofid meddwl trwy’r canlynol:

Hybu safbwyntiau, anghenion ac uchelgeisiau pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl

Herio camwahaniaethu a hyrwyddo cynhwysiant

Dylanwadu ar bolisi trwy ymgyrchu ac addysgu

Ysbrydoli datblygiad gwasanaethau o ansawdd sy’n adlewyrchu anghenion a fynegir ac amrywiaeth

Ennill hawliau cyfartal trwy ymgyrchu ac addysgu

Yn ei holl waith rydym yn hyrwyddo ein gwerthoedd: Amrywiaeth wybodus a phendant; Unplygrwydd a phartneriaeth.

Gall problemau iechyd meddwl effeithio pawb, boed gyfoethog neu dlawd, hen neu ifanc, gan chwalu bywydau ffrindiau a chydnabod. Bydd un o bob pedwar ohonom ni’n profi problem iechyd meddwl rywbryd yn ein bywydau. Bob blwyddyn mae rhagor na 250,000 o bobl yn cael eu derbyn i ysbytai seiciatryddol ac mae dros  4,000 o bobl yn eu lladd eu hunain.

Ynys Mon Mind: (01407) 761611 ynysmonmind@yahoo.co.ukCyswllt gorau: Clare Bailey

I ddysgu rhagor am waith Mind, ewch i www.mind.org.uk