Rowch i Mind Ynys Môn & Gwynedd
Newyddion
Clwb Archwaeth a Ffitrwydd Mind
Gweithdai Celf mewn lechyd a Lles Mind Ynys Môn & Gwynedd ac Amgueddfa ac Oriel Gwynedd
Hyfforddiant Deuddydd mewn Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl:
Mae Mind Ynys Môn & Gwynedd yn aelod cyswllt o Mind Cenedlaethol, y brif elusen iechyd meddwl yn y wlad, ac mae’n gweithio i sicrhau gwell dealltwriaeth a derbyniad i afiechyd meddwl yn y gymdeithas ehangach.
Dyma un o’r ychydig sefydliadau mewn iechyd meddwl sy’n annog cyfraniad gan ddefnyddwyr gwasanaethau, ar bob lefel, o gynllunio a gweithredu gwasanaethau, ac mae’n rhoi lle blaenllaw i ddefnyddwyr gwasanaethau ym mhopeth y mae’n ei wneud.
Mae Mind Ynys Môn & Gwynedd newydd gychwyn partneriaeth gyda’r Sefydliad Cenedlaethol Rhagoriaeth yn y Diwydiannau Creadigol (NIECI) ym Mhrifysgol Bangor, a’i nod yw hyrwyddo’r celfyddydau fel gwasanaeth sy’n rhoi llais i ddefnyddwyr gwasanaethau, gan herio yn y pen draw y gwarth sy’n wynebu rhai sy’n profi gofid meddwl.
Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl yw’r help a roddir ar unwaith i rywun sy’n profi gofid meddwl. Mae Mind Ynys Môn & Gwynedd am gynyddu nifer y rhai sy’n darparu Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl yn y gymuned gyda’r nodau a ganlyn:
Mae problemau Iechyd Meddwl yn gyffredin iawn. Bydd un ymhob pedwar o bobl yn cael problem gyda iechyd meddwl yng nghwrs blwyddyn. Er bod problemau Iechyd Meddwl mor gyffredin mae pobl yn parhau i’w camddeall ac nid ydynt yn cael eu trafod yn gyhoeddus yn aml. Pan fydd hyn yn digwydd, ac yn aml iawn yn y Cyfryngau, fe’u trafodir yn anghywir, sy’n arwain ar ofn, gwarth a chamwahaniaethu. Mae hyn yn ei dro’n cadw unigolion rhag ceisio help. Mae llawer o bobl yn anwybodus ac yn aml nid ydynt yn gwybod sut i ymateb.
Gall meddygon teulu, cwnselwyr ac aelodau o Dimau Iechyd Meddwl helpu pobl sydd â phroblemau Iechyd Meddwl. Fodd bynnag, megis yn achos damweiniau ac achosion meddygol brys, nid yw cymorth o’r fath bob amser ar gael pan fydd problem yn odi am y tro cyntaf. Dyma pryd y gall aelodau’r cyhoedd gynnig help ar unwaith a chynorthwyo rhywun i gael help priodol.
Mae Mind Ynys Môn & Gwynedd am ddysgu sgiliau i gynifer o bobl â phosibl er mwyn creu cymuned lle mae’n dderbyniol i unigolion sôn yn agored am eu gofid meddwl heb ofni gwrthodiad neu gamwahaniaethu, gan hybu Iechyd Meddwl, lle ac adferiad da.
Bydd Mind Ynys Môn & Gwynedd yn arwain 20 wythnos o weithdai celf cyffrous gyda’r nod o greu gwaith unigol a gwaith mewn grwpiau, yn ogystal â darnau gosod, gan ddefnyddio cyfryngau cymysg.
Bwriadwn roi cyfle i bobl eu mynegi eu hunain ac arddangos eu doniau.
Arweinir y gweithdai gan yr arlunydd Jaqui Myrtle ar ddydd Mercher rhwng 10yb a hanner dydd yn:
Canolfan Celf Ucheldre, Caergybi, Ynys Môn
Yn cychwyn 4 Tachwedd 2009
Croeso i bawb-£1
I wybod rhagor e-bostiwch ar ynysmonandgwyneddmind@yahoo.co.uk
Bydd Mind Ynys Môn & Gwynedd yn arwain chwe wythnos o weithdai cyffrous gyda golwg ar ennyn gweithgarwch ymhlith ysgrifenwyr newydd a phrofiadol fel ei gilydd.
Trefnwyd y gweithdai hyn i roi cyfle i bawb ganfod a datblygu llais creadigol unigryw fel cyfrwng mynegiant mewn awyrgylch diogel a chefnogol.
Byddant dan arweiniad y bardd, y beirniad a’r nofelydd Simon Holloway, sy’n ddarlithydd mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Bangor.
Cynhelir y gweithdai ar ddydd Mawrth o 10ynb-12.30yp yng:
Canolfan Celf Ucheldre, Caergybi, Ynys Môn
cost £2 y sesiwn
Yn cychwyn 3 Tachwedd 2009
I wybod rhagor e-bostiwch:
ynysmonandgwyneddmind@yahoo.co.uk